Bwyd go iawn, sgiliau go iawn, newid go iawn
Mae Cegin y Bobl yn gweithio i greu gwlad lle mae gan bawb y sgiliau a’r hyder i goginio bwyd blasus, iachus a fforddiadwy. Elusen addysg bwyd arloesol â’i chartref yn Sir Gâr yw Cegin y Bobl. Rydym yn helpu taclo rhai o heriau iechyd mwyaf Cymru trwy rannu sgiliau coginio gyda phawb.
Rydym yn cynnal gweithdai bwyd dan arweiniad tîm o gogyddion o fyd lletygarwch ar draws Cymru. O sesiynau coginio mewn ysgolion i gyrsiau i oedolion ac o sesiynau coginio teuluol i wleddoedd cymunedol, rydym am newid bywydau trwy bwyd.
Cefnogwch ein gwaith
Trwy roi coginio yn ôl yn nwylo’r bobl, gallwn fynd i’r afael â chlefydau sy’n deillio o’n diet, anghydraddoldeb iechyd, ac adeiladu cymunedau cryfach ac iachach.
Helpwch rieni i goginio prydau bwyd fforddiadwy ac iach i’w plant. Helpwch berson ifanc i ennill hyder ac annibyniaeth. Helpwch gymuned i gymryd eu hiechyd i’w dwylo eu hun. Pam ddim gwneud rhodd heddiw.
Cymryd Rhan
Cymerwch ran a helpu i gefnogi cenhadaeth Cegin y Bobl drwy godi arian yn eich cymuned! O deithiau cerdded noddedig yn yr Hwb Sgiliau, Canolfan Coleshill yn Llanelli i roddion hael gan ddigwyddiadau fel The Do Lectures, mae cymunedau ledled y genedl wedi dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae pob ymdrech, boed fawr neu fach, yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gwaith Cegin y Bobl.