Mae angen eich help arnom!
Mae Cegin y Bobl wedi’i hadeiladu ar bŵer pobl!
Allech chi roi rhodd i gefnogi ein gwaith? Efallai eich bod chi’n gogydd medrus ac yn berson cymdeithasol eich hun – beth am wirfoddoli? Neu gallwch danysgrifio i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chodi eich llais gyda’n hymgyrchoedd sydd i ddod.
Rhoi nawr
Trwy roi coginio yn ôl yn nwylo’r bobl, gallwn fynd i’r afael â chlefydau sy’n deillio o’n diet, anghydraddoldeb iechyd, ac adeiladu cymunedau cryfach ac iachach. Helpwch rieni i goginio prydau bwyd fforddiadwy ac iach i’w plant. Helpwch berson ifanc i ennill hyder ac annibyniaeth. Helpwch gymuned i gymryd eu hiechyd i’w dwylo eu hun. Pam ddim gwneud rhodd heddiw.
Codi Arian yn y Cymuned
Cwestiynau Cyffredin am Godi Arian
Ydyn! Rydyn ni wedi llunio pecyn codi arian cymunedol yn llawn o syniadau hawdd, gwych – o noson gawl, taith gerdded noddedig i rywbeth creadigol ac unigryw i chi!
Na! Mae croeso mawr i bob cyfraniad.
Mae’n helpu os gallwch osgoi anfon arian parod! Ebostiwch helo@ceginybobl.co.uk yn gofyn am ein manylion banc i wneud rhodd. Dywedwch rywbeth wrthym am eich stori hefyd – rydym yn gwerthfawrogi’r holl ymroddiad a gwaith sy’n mynd i godi arian!
Gwirfoddoli
Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr angerddol! Mae gennym gymuned gynyddol a chyfeillgar o wirfoddolwyr sy’n dod ochr yn ochr â’n cogyddion i drawsnewid bywydau trwy fwyd. Yn iau ac yn hŷn, mae ein gwirfoddolwyr wir yn gwneud i bethau ticio yma, ac mae llawer ohonynt yn arwyr bwyd go iawn eu hunain.
Cwestiynau Cyffredin Gwirfoddoli
Anfonwch e-bost i helo@ceginybobl.co.uk gyda’ch enw, lleoliad, argaeledd a chrynodeb byr o’ch profiad blaenorol o wirfoddoli a choginio.
Nid o reidrwydd! Er bod y rhan fwyaf o’n gwirfoddolwyr yn helpu ar ein cyrsiau ymarferol, mae angen sgiliau prawfddarllen, gweinyddu, cyfieithu arnom hefyd.