Mynd i'r cynnwys

Cegin y Bobl yn Sir Gaerfyrddin

O geginau ysgol i fyrddau cymunedol: y camau cyntaf i Cegin y Bobl yn Sir Gaerfyrddin

Mae Cegin y Bobl, elusen addysg bwyd arloesol sydd â’i chartref yn Sir Gaerfyrddin, yn angerddol bod bwyd yn fwy na thanwydd yn unig – mae ganddo’r pwêr i fagu hyder mewn unigiolion, meithrin cysylltiad cymdeithasol a chreu newid yn ein gwlad. Nawr, mae’r gred hon yn cael ei chario ymlaen gan yr union bobl maen nhw wedi gweithio ochr yn ochr â nhw.

Ar wahân i’w gwaith craidd mewn ysgolion, maent wedi gweld effaith hirdymor ar sefydliadau cymunedol, fel Canolfan Coleshill, Hwb Sgiliau sy’n cefnogi oedolion ag anableddau a chyflyrau iechyd meddwl. Mae’r hyn a ddechreuodd yn 2024 fel Rhaglen Coginio Cartref chwe wythnos, a gyflwynwyd gan Cegin y Bobl o dan adain prosiect Cook24, bellach wedi bwrw gwreiddiau parhaol.

Cegin wedi’i hadeiladu o’r gymuned

Y gwanwyn hwn, dadorchuddiodd Canolfan Coleshill gegin addysg newydd, wedi’i hadeiladu’n bwrpasol i redeg sesiynau coginio wythnosol i’w cleientiaid. Mae’r sesiynau bellach yn cael eu harwain gan Linda Morgans, gweithiwr cymorth a gwblhaodd Raglen Arweinyddiaeth Bwyd Cymunedol Cegin y Bobl yn gynharach eleni.

Meddai Linda:

“Ar ôl llwyddiant gwaith Cegin y Bobl gyda ni, mae ein hunigolion sy’n cael mynediad i’r gwasanaeth i gyd yn gofyn i gael coginio! Nid oedd ein gegin yn ddigonol i ddarparu ar gyfer pawb… Mae’r gegin newydd wedi’i chynllunio i gynnwys ystod o offer sy’n addas i bawb ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rwy’n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny!”

Meddai un rhiant, y trawsnewidiwyd perthynas ei mab â bwyd ar ôl cymryd rhan yn y cwrs gwreiddiol, “Mae gan fy mab anghenion arbennig. Mae’r profiad hwn wedi rhoi golwg gwahanol iddo ar fwyd a choginio!”

Gwaddol sy’n dal i dyfu

I gydnabod yr effaith gadarnhaol a gafodd prosiect Cook24 ar y ganolfan, daeth trigolion a staff Coleshill at ei gilydd i godi dros £1,000 ar gyfer Cegin y Bobl, gan gynnwys taith gerdded noddedig. Bydd yr arian a godir yn cefnogi rhaglenni’r dyfodol yn uniongyrchol, ac roedd tîm Cegin y Bobl wedi’u cyffroi’n fawr gan y haelioni a’r ysbryd cymunedol a ddangoswyd.

O Gefnogwyr i Arweinwyr

Nid dyna ddiwedd y stori. Gan adeiladu ar lwyddiant Coleshill, mae Cegin y Bobl bellach yn rhedeg ei Rhaglen Arweinyddiaeth Bwyd Cymunedol yn Llanelli, gan arfogi carfan newydd o newidwyr lleol gyda’r sgiliau, y strategaethau a’r hyder i drawsnewid bwyd a choginio yn eu lleoliadau cymunedol eu hunain.

Mae’r neges yn glir: pan fydd y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhelliant yn cael eu rhannu â phobl, maen nhw’n cario’r gwaith trawsnewidiol ymlaen yn eu cymunedau neu leoliadau gwaith eu hunain. Boed mewn ysgolion, canolfannau sgiliau, neu geginau fel Coleshill’s, mae gwaddol Cegin y Bobl yn parhau i dyfu.

Adeiladu Mudiad Ehangach

Ar hyn o bryd mae Cegin y Bobl yn chwilio am gyllid ychwanegol i ailadrodd y model hwn mewn canolfannau eraill ar draws y sir, gan gynnwys ardal Caerfyrddin, lle mae’r galw am addysg fwyd ymarferol yn cynyddu.

“Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall gwaith dwys mewn un maes arwain at effaith barhaol,” meddai Katy Hodge, Rheolwr Gweithredol Cegin y Bobl.

“Mae’r genhadaeth a’r gwerthoedd sydd wrth wraidd Cegin y Bobl bellach yn cael eu cario ymlaen gan ganolfannau fel Canolfan Coleshill, gan helpu i greu sefydliad cynaliadwy, a arweinir gan y gymuned – ein model ar gyfer addysg bwyd. Rydyn ni wedi gweld beth sy’n bosibl yn Coleshill a nawr rydyn ni eisiau i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ar draws Sir Gaerfyrddin, ac yn y pen draw ledled Cymru.”

Beth nesaf i Cegin y Bobl?

Mae Cegin y Bobl yn cyflwyno addysg fwyd ymdrochol yng Nghymru, gan ehangu hyfforddiant arweinyddiaeth bwyd, a datblygu partneriaethau gydag ysgolion, busnesau a sefydliadau cymunedol. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn gael Cymru i goginio a gwella iechyd, diogelwch bwyd a chreu arweinwyr bwyd yfory. Mae’r mentrau sydd ar ddod yn cynnwys:

– Rydym bellach yn agosáu at ddiwedd y Prosiect Prydau Ysgol Cenedlaethau’r Dyfodol, a gyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y prosiect, rydym wedi gweithio’n agos gydag ysgolion, plant, rhieni, a staff arlwyo. Ar hyn o bryd rydym yn cwblhau adroddiad y prosiect – cysylltwch â ni os hoffech dderbyn copi.

– Mewn partneriaeth â Hywel Dda ac wedi’i ariannu ganddo, mae Cegin y Bobl wedi cwblhau dwy gyfres o weithdai teuluol i’r Blynyddoedd Cynnar, gan ddarparu sgiliau coginio hanfodol i rieni i baratoi prydau fforddiadwy a maethlon, ac archwilio dewisiadau amgen yn lle bwydydd wedi’u prosesu, gan ganolbwyntio ar gyfnodau ôl-enedigol a diddyfnu.

– Dyfarnwyd rownd newydd o gyllid Ffyniant Bro gan lywodraeth Prydain yn ddiweddar, a bydd Cegin y Bobl yn dechrau cyflwyno Cyrsiau Darganfod Bwyd i blant ar draws Sir Gaerfyrddin.

Cadwch lygad am bartneriaethau a digwyddiadau Cegin y Bobl sy’n dod drwodd yn fuan! 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.