Mynd i'r cynnwys

Ein Heffaith

Bwyd go iawn, newid go iawn

Yn ystod ein blwyddyn gyntaf o waith, rydym wedi mireinio ein model, ehangu’r tîm a’r cymunedau rydyn ni’n eu cyrraedd, a chynyddu ein heffaith yn sylweddol.

Rydym wedi rhannu ein gwaith ar draws pum sir yng Nghymru, ac wedi dylanwadu ar sgyrsiau cenedlaethol am ddyfodol bwyd, iechyd a sgiliau yng Nghymru.

Lawrlwytho ein Adroddiad

Ein Blwyddyn Gynta

Ein heffaith hyd yn hyn

1000+ addysgu a hyfforddi dros 1000 o bobl wyneb yn wyneb ledled Sir Gâr
25+ ymddangosiadau yn y cyfryngau
£86 MIL+ o incwm masnachol
5 sir wahanol yng Nghymru
"Mae Cegin y Bobl wedi cael effaith wirioneddol ar ein teuluoedd a’n disgyblion yma yn Llandeilo. Mae’r sesiynau coginio am ddim wedi helpu teuluoedd i fagu hyder wrth baratoi prydau iach a fforddiadwy gartref, ac wedi creu gofod braf lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac nid eu barnu."

Pennaeth,

Sir Gaerfyrddin

Adnoddau

Cymerwch gipolwg manwl ar ein gwaith yn ein hadroddiad.

CEFNOGWCH EIN GWAITH

Trwy roi coginio yn ôl yn nwylo’r bobl, gallwn fynd i’r afael â chlefydau sy’n deillio o’n diet, anghydraddoldeb iechyd, ac adeiladu cymunedau cryfach ac iachach. Helpwch rieni i goginio prydau bwyd fforddiadwy ac iach i’w plant. Helpwch berson ifanc i ennill hyder ac annibyniaeth. Helpwch gymuned i gymryd eu hiechyd i’w dwylo eu hun. Pam ddim gwneud rhodd heddiw.

CYFRANNWCH NAWR
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.