Mynd i'r cynnwys

RYSÁIT I NEWID CYMRU

Ymunwch â ni i danio cegin Cymru!

Wrth i etholiad y Senedd agosáu, rydym yn galw am newid go iawn.

Ymunwch â ni i alw ar Lywodraeth nesaf Cymru i harneisio pŵer bwyd i helpu datrys yr heriau mawr sy’n wynebu Cymru – o iechyd i ganlyniadau addysgol i’r amgylchedd naturiol.

Addawwch eich cefnogaeth

Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

Sicrhau bod bob plentyn yng Nghymru yn gadael ysgol gyda'r sgiliau coginio sydd angen arnynt

Sicrhau bod bob plentyn yng Nghymru yn gadael ysgol gyda'r sgiliau coginio sydd angen arnynt

Mae’r sgiliau i gymryd cynhwysion syml a fforddiadwy a gwneud o hynny bryd o fwyd da yn gallu rhoi elfen o reolaeth i ni i gyd dros ein bywydau a'n hiechyd. Mae angen i ni roi'r cyfle hwn i bob plentyn, ac helpu achub y GIG wrth wneud.

Sicrhau nid yw bwyd wedi gor-brosesu ar y plât cyhoeddus

Sicrhau nid yw bwyd wedi gor-brosesu ar y plât cyhoeddus

Mae salwch sy'n gysylltiedig â diet yn gyrru ein Gwasanaeth Iechyd i’r wal. Dylai'r bwyd yn ein hysbytai, ysgolion a chartrefi gofal fod yn ffres, maethlon a blasus - yn hytrach na di-flas a llawn ychwanegion.

Dod â chinio ysgol wedi'i goginio'n ffres yn ôl i bawb

Dod â chinio ysgol wedi'i goginio'n ffres yn ôl i bawb

Dylai bod yn gogydd ysgol fod yn yrfa ddymunol, werth chweil - bwydo plant â bwyd ffres bendigedig bob dydd. Gadewch i ni gefnogi ein cogyddion ysgol gyda'r hyfforddiant a'r statws y mae'r swyddi hyn yn eu haeddu.

Sicrhau bob bwyd cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi ffermio Cymru go iawn

Sicrhau bob bwyd cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi ffermio Cymru go iawn

Mae gennym gyfle i gysylltu ein cymunedau â’r diwydiant sy’n cynhyrchu bwyd ffres - er budd pawb.

Creu Deddf Diogelwch a Gwytnwch Bwyd i Gymru - i warchod rhag siociau yn y dyfodol

Creu Deddf Diogelwch a Gwytnwch Bwyd i Gymru - i warchod rhag siociau yn y dyfodol

Allwn ni ddim cymryd yn ganiataol y gallwn bob amser gael bwyd o dramor. Mae angen i ni ddod â phŵer yn ôl i gymunedau a gwarchod y genedl trwy ailgysylltu iechyd, tyfu bwyd a gwytnwch cymunedol.

Ydych chi gyda ni?

Ymunwch â ni i alw ar Lywodraeth nesaf Cymru i danio cegin Cymru – a newid ein perthynas â bwyd am byth. Addawch eich cefnogaeth a chadwch i fynnu â'n newyddion diweddaraf.
Cofrestrwch
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.