21 CHWEFROR - 7 MAWRTH 2026
Wrth i Ddydd Gŵyl Dewi agosáu, bydd Pythefnos Caws Pobi (21 Chwefror – 7 Mawrth) yn dathlu pryd eiconig Cymreig i godi arian ar gyfer Cegin y Bobl.
Bydd busnesau sy’n cymryd rhan yn rhoi pryd o gaws pobi Cymreig ar eu bwydlen – fersiynau clasurol a dyfeisgar…
Ymunwch â ni
Pwy sy'n cymryd rhan
Waterloo Tea, Penarth, Penylan, Heol yr Eglwys Newydd, ac Arcêd Wyndham, Caerdydd
Caws pobi Cymreig gyda the du Assam, cennin, caws cheddar a phicls cartref ar bara surdoes Alex Gooch
Gwaelod y Garth Inn, Gwaelod-y-Garth, Caerdydd
Caws pobi Cymreig ar ben hadog mwg gyda thatws Boulangère
Becws Hare & Hounds, Y Bont-faen, Bro Morgannwg
Brechsan wedi'i dostio hefo madarch a caws pobi Cymreig
Hard Lines, Canton, Caerdydd
Bara cwrw Cymreig hefo caws pobi, cenin a saws cnau ffrengig wedi'i biclo, ar gael 28 Chwefror - 14 Mawrth
Deli a Bar y Cwmni Caws Cymreig, Parc Victoria, Caerdydd
Bwydlen cinio o brydau caws pobi Cymreig (o 1af - 31ain Mawrth)
Pitchfork & Provision, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin
Caws pobi Cymreig gyda chaws Pitchfork a chwrw Evans Evans ar dost surdoes
Shire Coffee at Hwyl, Stryd y Farchnad, Llanelli
Caws pobi Cymreig ar bara surdoes gyda chennin wedi'i frwysio, gyda dau wy wedi'u potsio
Cegin Diod, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin
Caws pobi Cymreig wedi'i wneud gyda cwrw 'Gower Power', mwstard Cymreig a chennin Cymreig creisionllyd, gyda slaw a salad
Wright's, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin
Caws pobi Cymreig gyda chaws cheddar Hafod a chennin, ar dost surdoes Pitchfork & Provisions
Wholefoods of Newport, Trefdraeth, Sir Benfro
Caws pobi Cymreig wedi'i wneud gyda chaws Calon Wen, caws cheddar Hafod a chwrw 'Gwaun Valley Brewery'
Busnesau: Ymunwch â ni!
Cysylltwch â helo@ceginybobl.co.uk i ymuno â’r ymgyrch
Pam mod i’n cymryd rhan
Tanio cegin Cymru
Mae Cegin y Bobl yn gweithio i greu gwlad lle mae gan bawb y sgiliau a’r hyder i goginio bwyd blasus a iachus. Rydym yn cynnal gweithdai bwyd dan arweiniad tîm o gogyddion o fyd lletygarwch ar draws Cymru.